Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd, Gwrandewir llais y gwan; Wel cyfod bellach, f'enaid prudd, Anadla tua'r lan. Wel anfon eirchion amal ri' I mewn i byrth y nef; Gwrandewir pob amddifad gri Yn union ganddo ef. Myfi anturia' nawr ymlaen Heb alwad is y ne' Ond bod perffeithrwydd mawr y groes Yn ateb yn fy lle. Ni fethodd gweddi daer erioed, A chyrhaedd hyd y nef; Ac mewn cyfyngder, f'enaid rhed, Yn union ato Ef. Anturiaf at ei orsedd fwyn, Tan eitha tywyll nos; Ac mi orphwysaf, doed a ddel, Ar haeddiant gwaed y groes. Mi waeddaf yn y 'storom fawr, Dan donau fwy na rhi'; Ac fe esgyna'm drylliog lef, I entrych nefoedd fry. Fe ffy'r tywyllwch wrth fy nghri, Yn nghyfyngderau'r nos; Can's nid â'n ofer gais fy Nuw, A waeddodd E' ar y groes. Calfaria fryn yw'r unig sail Adeilaf arno mwy, A gwraidd fy nghysur fyth gaiff fod Mewn dwyfol, farwol glwy'.William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]: gwelir: Agorwyd pyrth y nefoedd wiw Anturiaf at ei orsedd fwyn Boed dyoddefiadau pur y groes Iesu yw 'Mrawd a 'Mhriod pur Mae pyrth y nef o led y pen Ni fethodd gweddi daer erioed |
The great throne is now free, The voice of the weak is to be heard; So from now on arise, my sad soul, Aspire towards the shore. So send entreaties often Into the portals of heaven; Every destitute cry will be heard Directly by him. I will venture now forwards Without a call under heaven But that the great perfection of the cross Is answering in my place. An earnest prayer never failed, And reaches as far as heaven; And in straits, my soul will run, Directly to Him. I will venture to his gentle throne, Until the utter dark of night; And I will rest, come what may, On the merit of the blood of the cross. I will shout in the great storm, Under billows more than number; And my broken cry will ascend, To the vault of heaven above. The darkness will flee at my cry, In the straits of the night; For I will not go in vain to seek my God, Who himself shouted on the cross. Calvary hill is the only basis On which I will build henceforth, And the root of my comfort will ever be found In a divine, mortal wound.tr. 2009,10 Richard B Gillion |
|